Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Chwefror 2022
Amser: 09.16 - 12.24
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12612
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Alun Davies AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Suzy Davies, Cynghrair Twristiaeth Cymru Shomik Panda, UK Short Term Accom Association Sam Rees, RICS David Chapman, UK Hospitality Cymru Daryl Mcintosh, Propertymark |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Cafwyd datganiad o fuddiant perthnasol gan Mabon ap Gwynfor AS.
2 Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 4 - economi
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Suzy Davies, Cadeirydd, Cynghrair Twristiaeth Cymru
Daryl Mcintosh, Rheolwr Polisi, Propertymark
Sam Rees, Uwch Swyddog Materion Cyhoeddus – RICS, Cymru
David Chapman, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gymru, UK Hospitality
Shomik Panda, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cymdeithas Llety Tymor Byr y DU
3 Papurau i'w nodi
3.1 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23.
3.1. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Ymchwiliad i ail gartrefi - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.
5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.
6 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau.
6.1. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau.
7 Trafod y flaenraglen waith
7.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.
8 Diweddariad ar Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
8.1. Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.